Breuddwyd Roc a Rôl

£54.95 incl tax

Mae'r print giclee yma o 'Breuddwyd Roc a Rôl' yn newydd ar gyfer Nadolig 2013. Mae'n perthyn i gasgliad o waith giclee newydd ac wedi ei argraffu ar bapur proffesiynol, archifol Hahnemühle. Mae'r cyfanwaith (gan gynnwys border gwyn y papur) yn mesur tua 18.5" x 16". Daw tystysgrif wedi ei rifo, dyddio ac arwyddo gyda'r darn.

'Limited Edition' o 48 print yn unig.

Noder: Pris am y print yn unig y hwn. Nid yw'n cynnwys mownt/ffram.

PWYSIG: Hawlfraint Geiriau/Cerddoriaeth 'Breuddwyd Roc a Rôl' ©CyhoeddiadauSain

 

Os hoffech brynu un o'r rhain wedi ei fowntio a fframio hefyd, ebostiwch rhyspadarn@hotmail.com i wneud trefniadau cyn talu. Gallaf roi amcan bris ac amser disgwyl i chi. Tua 3 wythnos yw'r amser aros fel arfer, ond gall fod yn gynt os yw'r print gen i mewn stoc. O ystyried y gwydr, nid wyf yn barod i bostio prints wedi ei fframio, felly bydd angen i chi wneud trefniadau i gasglu'r darn o ardal Pontarddulais, Abertawe

Qty.:
  • Share it