Titw Tomos (Print Bach / Small Print)

£70.00 incl tax

PRINT BACH / SMALL PRINT - tua / approx. 53cm x 31cm

Geraint Thomas. Pencampwr. Arwr. Cymro. Titw Tomos Las. Yn dilyn ei gamp anferthol i ennill y Tour de France yn 2018, roedd rhaid i fi fynd ati i greu llun. Gyda geiriau Titw Tomos Las yn gefndir yn yr awyr, dwi'n gobeithio bo'r darn yn gofnod teilwng o'r achlysur. Mae'r llun wedi ei argraffu ar bapur proffesiynol, archifol. Daw'r print mewn dau faint gwahanol. Mae'r cyfanwaith (gan gynnwys border gwyn y papur) o'r PRINT BACH hwn yn mesur tua 53cm x 31cm. Daw tystysgrif wedi ddyddio ac arwyddo gyda'r darn.

Noder: Pris am y print yn unig y hwn. Nid yw'n cynnwys mownt/ffram. Os hoffech eich print wedi mowntio a fframio'n broffesiynol, cofiwch gysylltu (rhyspadarn@hotmail.com) cyn archebu. Bydd angen trefnu casglu prints wedi eu fframio o ardal Pontarddulais, Abertawe, yn hytrach na phostio. Bydd cost ychwanegol am fframio a'r tebygrwydd yw y bydd angen aros rhai wythnosau yn hirach amdano hefyd.

Qty.:
  • Share it